National Trust

Fundraising Manager / Rheolwr Codi Arian

Click Here to Apply

Job Location

Newport, United Kingdom

Job Description

Summary We’re looking for a Fundraising Manager to join us in Wales, to help shape and achieve our ambitious vision for fundraising. As a charity, the National Trust relies heavily on the income we generate through our various fundraising activities and channels. You'll have a proven track record in securing funds from a range of sources including major donors and charitable trusts. This is a permanent role for 30hrs per week. You’ll be based at one of our regional offices in Wales and we support hybrid working. We can discuss this further at interview. Please include a cover letter and CV with your application. Internally, you will be known as Philanthropy Consultant. Rydym yn chwilio am Reolwr Codi Arian i ymuno â ni yng Nghymru, i helpu i lunio a chyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer codi arian. Fel elusen, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dibynnu'n helaeth ar yr incwm rydym yn ei gynhyrchu drwy ein gweithgareddau a'n sianeli codi arian amrywiol. Bydd gennych hanes profedig o sicrhau arian o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys rhoddwyr mawr ac ymddiriedolaethau elusennol. Mae hon yn swydd barhaol am 30 awr yr wythnos. Byddwch wedi'ch lleoli yn un o'n swyddfeydd rhanbarthol yng Nghymru ac rydym yn cefnogi gweithio hybrid. Gallwn drafod hyn ymhellach yn y cyfweliad. Dylech gynnwys llythyr eglurhaol a CV gyda'ch cais. Yn fewnol, fe'ch gelwir yn Ymgynghorydd Dyngarwch. What it's like to work here You’ll be part of the Trust’s internal consultancy: a flexible resource of specialist skills and expertise. As one of a multidisciplinary team of experts, including curators, fundraisers, building surveyors and project managers, you’ll be working with others to help make things happen. You’ll have a flair for building and strengthening special relationships with existing potential donors and have had success in working with Trusts and Foundations. Experienced in developing and delivering large fundraising appeals and campaign, you’ll have a gift for inspiring your colleagues to ‘think like fundraisers’, unlocking enthusiasm, networks and innovative opportunities. We have an ambitious fundraising vision and exciting new projects on the horizon - we want you to be part of shaping them. Sut brofiad yw gweithio yma? Byddwch yn rhan o ymgynghoriaeth fewnol yr Ymddiriedolaeth: adnodd hyblyg o sgiliau arbenigol. Fel un o dîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr, gan gynnwys curaduron, codwyr arian, syrfewyr adeiladu a rheolwyr prosiect, byddwch yn gweithio gydag eraill i wneud i bethau ddigwydd. Byddwch yn ddawnus wrth feithrin a chryfhau cysylltiadau arbennig gyda darpar roddwyr presennol ac wedi cael llwyddiant wrth weithio gydag Ymddiriedolaethau a Sefydliadau. Yn brofiadol mewn datblygu a chyflawni ymgyrchoedd codi arian mawr, byddwch yn fedrus wrth ysbrydoli eich cydweithwyr i ‘feddwl fel codwyr arian’, gan ddatgloi brwdfrydedd, rhwydweithiau a chyfleoedd arloesol. Mae gennym weledigaeth codi arian uchelgeisiol a phrosiectau newydd cyffrous ar y gorwel - rydym am i chi fod yn rhan o’u llunio. What you'll be doing We’re looking for a dynamic, highly experienced fundraiser to join our Wales Growing Support Consultancy team. As one of our fundraising experts in the region you will help some of our most inspiring properties by developing and delivering ambitious fundraising plans for major projects, growing individual giving and securing funding from charitable trusts. You’ll be working alongside others responsible for raising funds, a variety of consultants, colleagues who manage Trust places and their teams who work on site. You’ll be sharing your knowledge and expertise, supporting others to develop and deepen their understanding. You'll help some of the Trust’s best-loved places to reach stretching targets through a range of fundraising initiatives. You'll be responsible for developing relationships with new trusts and foundations, and with high-value supporters, talking to them about all aspects of the Trust’s work. You’ll be embedded in project teams, working with specialists from across the Trust. You'll expand philanthropic giving to an inspiring cause, and you’ll support and develop new fundraising initiatives. Beth fyddwch chi’n ei wneud? Rydym yn chwilio am godwr arian hynod brofiadol i ymuno â’n tîm Ymgynghoriaeth Datblygu Cefnogaeth Cymru. Fel un o’n harbenigwyr codi arian yn y rhanbarth byddwch yn helpu rhai o’n heiddo mwyaf ysbrydoledig drwy ddatblygu a chyflwyno cynlluniau codi arian uchelgeisiol ar gyfer prosiectau mawr, cynyddu rhoddion unigol a sicrhau cyllid gan ymddiriedolaethau elusennol. Byddwch yn gweithio ar y cyd ag eraill sy’n gyfrifol am godi arian, amrywiaeth o ymgynghorwyr, cyd-weithwyr sy’n rheoli lleoedd yr Ymddiriedolaeth a’u timau sy’n gweithio ar y safle. Byddwch yn rhannu’ch gwybodaeth a'ch arbenigedd, gan gefnogi eraill i ddatblygu a chryfhau eu dealltwriaeth. Byddwch yn helpu rhai o leoedd mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth i gyrraedd targedau ymestynnol trwy amrywiaeth o fentrau codi arian. Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau, a chefnogwyr gwerth-uchel newydd, gan drafod holl agweddau ar waith yr Ymddiriedolaeth gyda nhw. Byddwch yn rhan o brosiectau tîm, gan weithio gydag arbenigwyr o ar draws yr Ymddiriedolaeth. Byddwch yn ehangu rhoddi dyngarol i achos sy’n ysbrydoli, a byddwch yn cefnogi ac yn datblygu mentrau codi arian newydd. Who we're looking for · experienced in developing complex fundraising plans, with multiple income streams, for projects with stretching targets, and can show evidence of hitting these targets · experience of working with major donors and charitable trusts and foundations and a proven track record in building long-term relationships with supporters · proficient in fundraising through individual giving and charitable trusts · adept at building a compelling case for support · able to challenge colleagues to think differently and become innovative fundraisers · a skilled communicator, both written and verbal, who can build strong relationships within diverse teams, both internally and externally · a flexible thinker and problem-solver, skilled at negotiating and building productive networks, and confident in using your expertise to influence decisions · proactive and organised, with experience of working within projects and a talent for multi-tasking and getting things done, strongly focused on detail, quality, cost and time · a leader for inclusion, who works collaboratively and finds ways to create an inclusive culture First stage interviews will be held virtually on Wednesday 29 January 2025 Am bwy ydym yn chwilio? · profiad o ddatblygu cynlluniau codi arian cymhleth, gyda nifer o ffrydiau incwm, ar gyfer prosiectau â thargedau ymestynnol, ac yn gallu dangos tystiolaeth o gyrraedd y targedau hynny. · tystiolaeth o weithio gyda noddwyr mawr ac ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol a phrofiad amlwg o feithrin cysylltiadau tymor-hir gyda chefnogwyr · yn fedrus wrth godi arian drwy roddi unigol ac ymddiriedolaethau elusennol · yn fedrus wrth ddatblygu achos deniadol i sicrhau cefnogaeth · yn gallu herio cydweithwyr i feddwl yn wahanol a dod yn godwyr arian arloesol · yn gyfathrebwr medrus, yn ysgrifenedig ac ar lafar, sy’n gallu meithrin perthnasoedd cryf o fewn timau amrywiol, yn fewnol ac yn allanol · unigolyn sy’n gallu meddwl yn hyblyg ac yn gallu datrys problemau, yn fedrus wrth drefnu a magu rhwydweithiau cynhyrchiol, ac yn hyderus yn tynnu ar eich arbenigedd i ddylanwadu ar benderfyniadau · yn rhagweithiol ac yn drefnus, gyda phrofiad o weithio o fewn prosiectau ac yn hyfedr wrth gwblhau sawl tasg ar unwaith, ac yn rhoi sylw i fanylion, ansawdd, cost ac amser · hyrwyddo cynhwysiant, ac sy’n gweithio ar y cyd i ddod o hyd i ffyrdd i greu diwylliant cynhwysol Cynhelir y cyfweliadau cyntaf yn rhithiol ddydd Mercher 29 Ionawr 2025 The package The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too. · Substantial pension scheme of up to 10% basic salary · Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18) · Rental deposit loan scheme · Season ticket loan · EV car lease scheme · Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts · Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria. · Flexible working whenever possible · Employee assistance programme · Free parking at most Trust places Y pecyn Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. · Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol · Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) · Cynllun benthyciad blaendal rhent · Benthyciad tocyn tymor · Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema · Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. · Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl · Rhaglen cynorthwyo cyflogai · Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

Location: Newport, GB

Posted Date: 1/19/2025
Click Here to Apply
View More National Trust Jobs

Contact Information

Contact Human Resources
National Trust

Posted

January 19, 2025
UID: 5006015638

AboutJobs.com does not guarantee the validity or accuracy of the job information posted in this database. It is the job seeker's responsibility to independently review all posting companies, contracts and job offers.